New York
Ysgubor ramantus a moethus ym Mannau Brycheiniog.
Mae New York yn cynnig mesanîn eclectig i ddau mewn adeilad fferm a oedd yn
wreiddiol naill ai ‘n ysgubor neu’n goetsiws gyda fframwaith agored yn y to a mesanîn gyda ffenestri sy’n edrych dros yr ardd.
Yr ysgubor hynod hon yw’r hynaf mewn cwrt o ysguboriau cerrig godidog o’r 19eg ganrif. Mae ganddi amrywiaeth unigryw o wydr lliw a ffenestri anarferol,
wedi’u hachub gan y perchennog gwreiddiol oedd yn artist.
Mwynhewch gynllun agored sy’n cynnig ardal fawr i lawr y grisiau gyda nenfwd
uchder dwbl rhannol a llosgwr coed.
Cwtsiwch i fyny ar sedd y ffenestr gyda llyfr da a mwynhewch yr heulwen sy’n
disgleirio drwyddi ar brynhawniau heulog.
Mae’r gegin wed’i gwneud â llaw gydag arwynebau trawiadol a gafodd eu gwneud
allan o ffawydden o’r ardal leol ac mae sinc bwtler a phopty tanwydd deuol.
Lloriau pren, ffabrigau hyfryd ac ystafell ymolchi foethus gyda bath
nodweddiadol, pen dwbl a silff gwin.
Ystafell wely mesanîn fawr iawn gyda golygfeydd mynyddig , ffenestri ar
ddwy ochr a fframwaith pren agored.
Mwynhewch noson berffaith o gwsg mewn gwely maint brenin 3000 poced
gyda lliain cyfrif edau 400.
Feranda gyda golygfeydd dros yr ardd fach a’r goeden afalau i’r mynyddoedd. Y lle perffaith i fwynhau gwydraid o rywbeth arbennig a mwynhau’r sêr syfrdanol, ysblennydd yn yr ardal awyr dywyll hon.
Ond byddwch yn wyliadwrus o’r trawstiau isel, efallai bydd rhaid i chi blygu oddi tanynt!
Pam New York?
Arferai fod bwthyn ar ben ein tir yma ym Mhenstacan o’r enw New York ac un arall yn y pentref o’r enw Pennsylvania. Roedd yna ddywediad fod Cilycwm ‘ond mor fawr â New York i Pennsylvania’. Dywedodd cyfaill sy’n hanesydd lleol wrthym am y stori a’n hannog i gadw’r hanes a chadw’r enw, felly fe wnaethon ni.
- mesanîn eclectig
- Cysgu 2
- Cegin wedi'i gwneud â llaw
- Ardal byw agored mawr, gyda llosgwr coed
- Feranda gyda golygfeydd mynyddig
- Mesanîn agwedd ddwbl gyda gwely maint king
- Bath sliper moethus
- Gardd - croeso i 1 ci
- WIFI
- Amser cyrraedd 3pm - 10pm
- Amser ymadael
Archebwch eich arhosiad...