Skyloft
Llofft gwair, ‘bohemaidd’ syfrdanol ac eang a byddwch yn ymhyfrydu yn ei naws glyd cyn gynted ag y byddwch yn cerdded i mewn.
Perffaith ar gyfer cyplau, teithwyr unigol a phobl greadigol sy’n chwilio am rywle ysbrydoledig i beintio, ysgrifennu neu gyfansoddi.
Wedi’i guddio mewn ysgubor garreg ramantus o’r 19eg ganrif, gyda golygfeydd hardd, dyma’r ddihangfa berffaith i ddianc rhag y ddinas a bywyd bob dydd.
Addurn bohemaidd, unigryw, yn llawn cymeriad ac wedi’i ddodrefnu â chymysgedd o hen bethau a nodweddion anarferol gwreiddiol, gyda gwely cyfforddus iawn i chi, yn llawn plwmp a fflwff, ar ddiwedd dydd prysur.
Dyma baradwys i’r sawl sydd yn ymfrydu yn y sêr, mae lleoliad y balconi yn berffaith i chi syllu ar y sêr yng ngolau nos, a gyda’r thân coed y tu allan, mae modd i chi gwtsio i fyny a mwynhau sioe awyr y nos, gyda gwydraid neu gwpanaid o rywbethblasus.
Mwynhewch olygfeydd godidog o Fynyddoedd Cambria a PharcCenedlaethol Bannau Brycheiniog a chynigir cyfle i chi ailgysylltu â byd natur a manteisio i’r eithaf ar deithiau cerdded o’r drws i ddyffrynnoedd cudd,mynyddoedd, nentydd a rhaeadrau.
Chwaraewch recordiau ‘78’ ar y Gramoffon gwych o’r 1920au. Bydd yn sicr o wneud
i chi wenu.
Mae dyfeisiau amrywiol yn y gegin ac mae arwynebedd pren, sinc Belfast, teils Delft gwreiddiol, sosbennin Stellar a ffwrn drydan.Mae’r ystafell ymolchi fawr yma yn wreiddiol ym mhob ystyr y gair - papur wal wedi’i baentio â llaw, bath enamel hir a chyfforddus iawn gyda phaneli mahogani.
Os ydych chi eisiau ymlacio mewn man arbennig, dyma’r lleoliad i chi.
- Cysgu 2
- Lloft eang, gyda naws glyd a chartefrol
- Balconi gyda stôf llosgi coed a golygfeydd mynyddoedd
- Gramoffon y 1920au
- Gwely caban cyfforddus maint dwbl gyda ffenestr gwydr lliw
- Ystafell ymolchi eclectig gyda bath hir moethus
- Sori dim anifeiliaid anwes
- WIFI
- Amser cyrraedd 3pm i 10pm
- Amser ymadael 10am
Archebwch eich arhosiad...